Boe, Evans and Garrett headline 2012 Llangollen line-up

17th November 2011

BOE, EVANS AND GARRETT HEADLINE 2012 LLANGOLLEN LINE-UP

A musical theatre superstar, a classical singer also known for his star role in a TV advert, a world-famous music conductor and an opera sensation are among the artists set to perform at the 2012 Llangollen International Eisteddfod.

The 2012 line-up features music favourites Alfie Boe, Wynne Evans, Karl Jenkins and Lesley Garrett among its highlights. Instrumentalists Alison Balsom and Nicola Benedetti, The Royal Philharmonic Orchestra, soprano Fflur Wyn, opera star Mark Llywelyn Evans and Côr CF1 have also been confirmed to perform at the Eisteddfod.

The announcement came at a press conference at Llangollen Pavilion on Wednesday 16 November by new Music Director Eilir Owen Griffiths. Tickets for the concerts will be released on general sale from Monday 5 December at the Box Office and online.

Wynne Evans was also at the launch and gave the press a sneak preview of what’s to come at the 2012 Grand Finale concert with a specially written song about Llangollen to the tune of the Go Compare adverts.

The tenor from Carmarthen says, The Llangollen International Eisteddfod has such a rich tradition and is well supported by locals and visitors from four corners of the world. It’s an honour to be invited to perform on such an iconic stage for the first time in front of an international audience. I am ashamed to say I only visited the Eisteddfod for the first time last year and I was amazed by the broad spectrum of musical styles and cultures there. I can honestly say there is something for everyone. As soon as I felt the atmosphere in the pavilion it became my ambition to sing there and now I am delighted to be headlining the final night concert.  The line-up for 2012 looks fantastic and I’m sure the demand for tickets will be as high as ever.”

Music Director Eilir adds, “2012 is an exciting year for Llangollen International Eisteddfod. We’ve managed to attract an exciting mix of accomplished artists and instrumentalists to complete an attractive Concert Series. This year also sees the launch of ‘The LIME Festival Chorus’ and ‘The LIME Orchestra’ as well as the brand new ‘All Singing, All Dancing Showchoirs’ competition, which I’m personally looking forward to.

“Annual favourites including the fantastic International Competitors, Children’s Day, Folk Friday and the inaugural and internationally renowned Choir of the World finale all return. We certainly have got something for everyone. And personally, I’m looking forward to the challenges that my first year in the role will bring.”

The 2012 Llangollen International Eisteddfod kicks off on Tuesday 3 July with the annual Parade of Nations through Llangollen town centre. Later that evening, competitors from across the globe will perform at the One World, One Stage, One Llangollen Welcome concert (7.30pm).

Classical Brit award winner and trumpeter Alison Balsom, soprano Lesley Garrett and violinist Nicola Benedetti will perform with The Royal Philharmonic Orchestra at the Queen’s Diamond Jubilee Concert on Wednesday 4 July (8.00pm).

Lesley Garrett explains, “Llangollen Eisteddfod is an amazing festival that brings many genres of music together. This is a cultural festival with great longevity and a fabulous history. Some of the world’s best singers have headlined here over the past 65 years. I’m also looking forward to performing at Llangollen again and sharing the stage with the fantastic Alison Balsom and Nicola Benedetti. They are wonderful instrumentalists and performers.”

Broadway and West End star Alfie Boe – best known for his role as Jean Valijean in Les Misèrables – makes a welcome return to Llangollen on 5 July to launch the All Singing, All Dancing Showchoirs competition and perform with his band (7.30pm).

Alfie Boe says, “Llangollen International Musical Eisteddfod has played host to a great number of international singers and performers in the past and I’m thrilled to be able to follow in their footsteps once again. It’s also exciting for me to launch the 2012 Show Choir competition and as Wales is traditionally known as ‘Land of the Song’ I’m sure the standard will be high.”

The winner of the Cardiff Singer of the World 2011, Valentina Nafornita, is the special guest singer during Karl Jenkins’ The Peacemakers on Friday 6 July (8.00pm). Swansea-born Jenkins returns to the Eisteddfod having led concerts in 2010.  He was also Day President at the 2009 Eisteddfod.

On Saturday 7 July, the week’s competitions come to a head in the spectacular Choir of the World finale (8.00pm).

Brothers Wynne and Mark Evans lead an exciting musical extravaganza on 8 July as they perform at the Grand Finale (7.30pm). The classical singers will be joined by opera singer Fflur Wyn, Côr CF1 and many more in closing the 2012 festival.

Ends

    

 

CYHOEDDI ARTISTIAID STEDDFOD LLANGOLLEN 2012 

Mae seren o fyd y sioe gerdd, canwr clasurol sydd hefyd yn adnabyddus am ei rôl ar hysbysebion teledu, arweinydd cerddorol byd enwog a chantores operatig ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio ar lwyfan Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen 2012.

Alfie Boe, Wynne Evans, Karl Jenkins a Lesley Garrett fydd sêr yr Eisteddfod yn 2012. Mae’r offerynwyr Alison Balsom a Nicola Benedetti, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, y soprano Fflur Wyn, y canwr opera Mark Llywelyn Evans a Chôr CF1 hefyd wedi’u cadarnhau i berfformio yn yr Eisteddfod.

Daeth y cyhoeddiad mewn cynhadledd i’r wasg yn y pafiliwn yn Llangollen ar ddydd Mercher 16 Tachwedd gan y Cyfarwyddwr Cerdd newydd Eilir Owen Griffiths. Bydd modd prynu tocynnau i’r cyngherddau o ddydd Llun 5 Rhagfyr drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau neu ar-lein.

Roedd Wynne Evans hefyd yn y lansiad a rhoddodd blas i’r newyddiadurwyr o’r hyn fydd yn eu disgwyl yn 2012 drwy ganu cân arbennig am yr Ŵyl i gyfeiliant cerddoriaeth hysbysebion Go Compare.

Meddai’r tenor o Gaerfyrddin, “Mae gan Eisteddfod Llangollen traddodiad cyfoethog iawn ac mae’n derbyn cefnogaeth arbennig gan ymwelwyr o bell ac agos. Yn sicr mae’n anrhydedd i gael perfformio ar lwyfan eiconig am y tro cyntaf o flaen cynulleidfa ryngwladol. Mae gen i ofn gyfaddef mai llynedd oedd y tro cyntaf imi ymweld â’r Eisteddfod ond ges i fy siomi o’r ochr orau gyda’r amrywiaeth o synau a diwylliannau cerddorol yno. Mae yna rywbeth at ddant bawb. Unwaith imi deimlo’r awyrgylch yn y pafiliwn, roedd hi’n uchelgais i berfformio yma ac rwy wrth fy modd cael y cyfle i berfformio ar noson olaf yr Eisteddfod. Mae pethau’n argoeli’n dda ar gyfer 2012 ac rwy’n siŵr fydd y galw am docynnau mor uchel ag erioed.”

Ychwanega’r Cyfarwyddwr Cerdd, Eilir Griffiths, “Mae 2012 yn argoeli i fod yn flwyddyn gofiadwy i’r Eisteddfod. Rydym wedi llwyddo i ddenu amrywiaeth cyffrous o artistiaid ac offerynwyr i greu cyfres o gyngherddau deniadol iawn. Eleni hefyd byddwn yn lansio Corws Eisteddfod Llangollen a Cherddorfa Eisteddfod Llangollen, yn ogystal â rhoi mwy o bwyslais ar y gystadleuaeth corau sioe – rhywbeth rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld.”

“Cawn hefyd fwynhau’r digwyddiadau blynyddol fel Diwrnod y Plant, Gwerin Gwener, y cystadleuwyr o dramor a chystadleuaeth arobryn Côr y Byd. Yn sicr mae yna rywbeth i bawb. Yn bersonol, rwy’n edrych ymlaen at yr her sy’n fy wynebu yn y flwyddyn gyntaf yn y swydd newydd.”

Bydd Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen 2012 yn dechrau ar ddydd Mawrth 2 Gorffennaf gyda Gorymdaith y Cenedlaethau drwy ganol dref Llangollen. Yn hwyrach y noson honno, bydd cystadleuwyr fyd eang yn uno i berfformio yn y cyngerdd ‘One World, One Stage, One Llangollen Welcome’ (7.30pm).

Ar ddydd Mercher 4 Gorffennaf, bydd enillydd y Brits Clasurol Alison Balsom, y soprano Lesley Garrett a’r crythor Nicola Benedetti yn perfformio gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol yng nghyngerdd i ddathlu Jiwbilî Ddeiamwnt y Frenhines.

Meddai Lesley Garrett, “Mae Eisteddfod Llangollen yn Ŵyl arbennig sy’n cyfuno cerddoriaeth o bob genre ar un llwyfan. Mae hanes yr Ŵyl yn gyfoethog iawn ac mae nifer o gantorion gorau’r byd wedi perfformio yma dros y 65 mlynedd diwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Gymru ac i Langollen a chael rhannu’r llwyfan gydag Alison Balsom a Nicola Benedetti. Mae’r ddwy yn berfformwyr ac offerynwyr proffesiynol a phenigamp.”

Bydd Alfie Boe, sydd fwyaf adnabyddus am bortreadu Jean Valijean yn y sioe gerdd Les Misèrables, yn perfformio ar lwyfan Llangollen am yr eildro ar 5 July. Seren Broadway a’r West End fydd hefyd yn lansio’r gystadleuaeth corau sioe (7.30pm).

Meddai Alfie Boe, “Wrth edrych ar enwau’r perfformwyr a chantorion byd enwog sydd wedi troedio llwyfan Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen, rwy’n hapus dros ben cael ymuno â’r rhestr anrhydeddus honno eto. Mae’n fraint gen i hefyd lansio Cystadleuaeth Corau Sioe 2012 a chyda Cymru yn cael ei hadnabod fel ‘Gwlad y gân’ yn draddodiadol, rwy’n siŵr fydd y safon yn uchel iawn.” 

Enillydd Canwr y Byd Caerdydd, Valentina Nafornita, fydd y gwestai arbennig yn ystod cyngerdd Karl Jenkins The Peacemakers ar ddydd Gwener 6 Gorffennaf (8.00pm). Nid dyma’r tro cyntaf i Jenkins ddychwelyd i’r Eisteddfod. Arweiniodd cyngherddau yn 2009 a 2010 ac fe oedd Llywydd y Dydd yn 2009.

Bydd holl gystadlu’r wythnos yn dod i derfyn ar nos Sadwrn 7 Gorffennaf gyda chystadleuaeth Côr y Byd (8.00pm).

Y brodyr Evans – Wynne a Mark – fydd yn rhannu’r llwyfan mewn noson o gerddoriaeth  wrth iddynt gyd-berfformio yn y finale ar nos Sul 8 Gorffennaf. Bydd y gantores operatig Fflur Wyn a Chôr CF1 yn ymuno â’r cantorion clasurol i gau Eisteddfod 2012.

Diwedd

 

2012 Llangollen International Eisteddfod

Tuesday 3 July – Sunday 8 July

Tickets on general and online sale from Monday 5 December 2011

 

Tuesday 3 July 2012

One World, One Stage, One Llangollen Welcome – Performances by some of the best and most colourful competitors of Llangollen 2012

Tickets - £15, £10

 

Wednesday 4 July 2012

Queen’s Diamond Jubilee Concert

Alison Balsom, Lesley Garrett and Nicola Benedetti with The Royal Philharmonic Orchestra

Tickets - £35, £28, £15

 

Thursday 5 July 2012

Alfie Boe at Llangollen featuring All Singing, All Dancing Show Choirs competition

Tickets - £30, £20, £15

 

Friday 6 July 2012

Karl Jenkins’ The Peacemakers and Valentina Nafornita (Winner – Cardiff Singer of the World 2011)

Tickets - £25, £20, £15

 

Saturday 7 July 2012

Choir of the World – The Pavarotti Trophy

Tickets - £25, £20, £15


Sunday 8 July 2012

Grand Finale – Wynne Evans, Mark Evans, Fflur Wyn, Côr CF1 and many more

Tickets - £25, £20, £15