Calon Cenedl S4C yn dathlu'r Nadolig yn gynnar yn Wrecsam

10th November 2011

 

S4C YNG NGHALON CYMUNED WRECSAM

Bydd S4C yn codi pac i Wrecsam a’r cyffiniau ym mis Tachwedd wrth i gymal diweddaraf Calon Cenedl gynnig nifer o weithgareddau cymunedol i drigolion yr ardal.

Mae pentref Rhosllannerchrugog, sydd wedi’i leoli rhyw bum milltir o Wrecsam, wedi cael cryn dipyn o sylw ar y sianel yn ddiweddar gyda chriw ffilmio cwmni cynhyrchu Boomerang yn dilyn holl baratoadau a bwrlwm pantomeim cymunedol Seren Nadolig Rhos bob nos Fawrth am 20.25.

Bydd Calon Cenedl S4C yn glanio yno i ddathlu pen y daith i’r gymuned wrth iddynt lwyfannu’r panto o flaen cynulleidfa yn Theatr y Stiwt ar 4 Rhagfyr. Mae tocynnau’n dal ar werth i wylio’r cynhyrchiad drwy gysylltu â Swyddfa Docynnau’r Stiwt ar 01978 841300 a’r wefan www.stiwt.co.uk.

Rhwng 15 Tachwedd a 9 Rhagfyr, bydd cyfle i fwynhau digwyddiadau sy’n hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau S4C gan gynnwys Cwis Dafarn, Arddangosfeydd Coginio a Gosod Blodau a sioe hudol i blant meithrin, yn ogystal â lleisio barn am y sianel yn Noson Gwylwyr S4C.

Taith ysgolion gydag Ant ac Al, cyflwynwyr direidus Stwnsh Sadwrn, fydd yn dechrau’r ymgyrch Calon Cenedl ar 15 Tachwedd.

Mae’r ymgyrch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn parhau ar Sgwâr y Frenhines yn Wrecsam ar nos Iau 17 Tachwedd pan fydd goleuadau Nadolig y dref yn cael eu cynnau am y tro cyntaf eleni. Ant ac Al ac aelodau o gast panto cymunedol Seren Nadolig Rhos fydd ymhlith y rheini i gynnig adloniant yn ystod y noson.

Bydd Sam Tân a Norman Preis ymhlith y gwesteion arbennig yn Ffair Nadolig Siôn Corn yn y Stiwt yn Rhosllannerchrugog ar 18 Tachwedd.

Ar 23 Tachwedd, bydd cwis dafarn yn cynnig y cyfle i ennill £200 ar gyfer elusen neu gynllun lleol ac i gyfarfod rhai aelodau o gast yr opera sebon Rownd a Rownd. Yr actor Dewi Rhys fydd yn cadw llygad barcud ar y cystadlu.

Y cogydd adnabyddus, Dudley Newbery, fydd yn dod â dŵr i’r dannedd gyda sesiwn goginio yng Ngholeg Iâl ar 24 Tachwedd gan roi’r cyfle i’r gynulleidfa holi, blasu a sgwrsio.

Rhosllannerchrugog fydd man cychwyn Sioe Nadolig Cyw a’i ffrindiau eleni, gyda Rapsgaliwn, Jac y Jwc a rhai o hoff gymeriadau’r gwasanaeth meithrin yn gorfod datrys problem fawr cyn y Nadolig.

Bydd Sioned Rowlands, un o gyflwynwyr Byw yn yr Ardd, yn arddangos ag ateb cwestiynau ar osod blodau yng Nghapel y Groes, Bodhyfryd, ar 28 Tachwedd.

Y noson ganlynol, bydd cast a chorws Seren Nadolig Rhos yn ymuno â Siôn Corn mewn gorymdaith arbennig yn yr ardal. Byddant hefyd yn cynnig adloniant ar Stryd y Farchnad.

Bydd cyfle i bobl yr ardal ddatgan eu barn am raglenni a gwasanaethau’r sianel a chyfarfod Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones a Phrif Weithredwr y sianel, Arwel Ellis Owen mewn Noson Gwylwyr S4C yng Nghapel y Groes, Bodhyfryd ar nos Fercher, 30 Tachwedd.

Cawn gamu nôl i’r gorffennol ar 8 Rhagfyr i weld sut mae Wrecsam a’r cylch wedi ymddangos ar y sgrin dros 30 o flynyddoedd gyda chlipiau archif S4C.

I gloi’r gweithgareddau yn Wrecsam, bydd Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru, yn cyflwyno gwers farddoniaeth wahanol iawn i blant ysgolion lleol.

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, “Cafwyd Eisteddfod Genedlaethol gofiadwy yn yr ardal yn yr haf ac mae’n braf cael dod nôl mor fuan wedi hynny er mwyn dathlu’r Nadolig ac arlwy diweddaraf S4C yn Wrecsam a Rhos. Rydym yn estyn gwahoddiad agored i bawb fwynhau’r amryw o weithgareddau ac adloniant rhad ac am ddim ac i gwrdd â rhai o wynebau mwyaf adnabyddus y Sianel. Bydd offer cyfieithu a system ddolen sain ar gael i ddysgwyr a’r rheini sy’n mwynhau gwylio’r sianel ond sydd ddim yn siarad Cymraeg.”

Mae ymgyrch Calon Cenedl 2011 eisoes wedi ymweld ag ardaloedd yng Ngheredigion, Llŷn ac Eifionydd, Sir Fôn a Blaenau Gwent gan godi arian er budd elusennau lleol a gweithgareddau cymunedol.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau yn Wrecsam a’r cyffiniau, ewch i’r wefan: www.s4c.co.uk/caloncenedl

Diwedd

 

S4C AT THE HEART OF WREXHAM’S COMMUNITY 

S4C is set to descend on Wrexham and the surrounding area in November for the latest stage of the Calon Cenedl (Heart of the Nation) campaign, offering a series of free community events to locals.

The village of Rhosllannerchrugog, located five miles from Wrexham, has featured quite heavily on the channel in recent weeks with production company Boomerang’s camera crew following the community as they prepare for a unique Christmas pantomime on Seren Nadolig Rhos, every Tuesday at 20:25.

S4C’s Calon Cenedl will arrive to celebrate the end of the community’s dramatic efforts as they stage the panto in front of an audience at the Stiwt Theatre on 4 December. Tickets are still on sale and can be purchased at the Box Office on 01978 841300 and the website www.stiwt.co.uk

Between 15 November and 9 December, members of the local community will be able to enjoy events that promote S4C’s programmes, personalities and services, including a pub quiz, cookery and flower-arranging demonstrations and a magical show for pre-school children, as well as a Viewers’ Evening to voice their opinion of the channel.

The campaign begins on 15 November as troublesome duo Ant and Al, presenters of Stwnsh Sadwrn, pay a visit to the local schools.

The journey to North East Wales continues on Queens Square in Wrexham on Thursday 17 November when the town’s Christmas lights will be turned on. Ant ac Al and members of the Seren Nadolig Rhos community panto cast will be among those providing the entertainment during the course of the evening.

Fireman Sam and ‘naughty’ Norman Preis are among the special guests at Father Christmas’ Christmas Party at the Stiwt in Rhosllannerchrugog on 18 November.

On 23 November, a pub quiz gives locals the opportunity to win £200 towards a local charity or project and meet some of the Rownd a Rownd (S4C’s soap opera for young people) cast. Actor Dewi Rhys will keep a close eye on the competing.

Celebrity chef Dudley Newbery will bring the best of Welsh produce to the kitchen with a special cookery demonstration at Yale College on 24 November.

Rhosllannerchrugog kicks off this year’s Cyw and Friends Christmas Show, featuring Rapsgaliwn, Jac y Jwc and other favourites from the nursery service as they combine to save Christmas before it’s too late.

Byw yn yr Ardd presenter Sioned Rowlands will host a gardening question and answer session and prepare a flower-arranging demonstration at the Capel y Groes, Bodhyfryd, on 28 November.

The following evening, the cast and chorus of Seren Nadolig Rhos’ Christmas pantomime join Father Christmas on a parade through Rhosllannerchrugog, Johnstown and Ponciau. They will also provide entertainment on Market Street.

People living in the area will be given the opportunity to voice their opinion on S4C programmes and services to the Chairman of the S4C Authority, Huw Jones and S4C Chief Executive, Arwel Ellis Owen in a Viewers’ Evening, to be held at the Capel y Groes, Bodhyfryd on Wednesday 30 November.

There will also be a chance to take a step back in time to see how Wrexham and the surrounding area has been portrayed on screen over the past 30 years with clips from the S4C archives.

Welsh Children’s Poet Laureate, Eurig Salisbury, hosts a poetry class with a twist for local schoolchildren to close the free activities in Wrexham.

S4C’s Director of Communications, Garffild Lloyd Lewis, says “We’re glad to be back in Wrexham and Rhos to celebrate Christmas and the latest S4C provision so soon after a memorable National Eisteddfod during the summer. There is an open invitation for everyone to come along to the free events and entertainment and to meet some of S4C’s most prominent personalities. A loop system and translation equipment will be available for Welsh learners and those who enjoy watching S4C but don’t speak Welsh.”

The 2011 Calon Cenedl campaign has already visited Ceredigion, Llŷn and Eifionydd, Anglesey and Blaenau Gwent whilst also raising money for local charities and community activities.

For more information about the events in Wrexham and the surrounding area, visit the website: www.s4c.co.uk/caloncenedl

Ends

  

A full list of S4C Calon Cenedl results

Thursday 17 November –Wrexham Christmas Lights

(Queen Square)

– with Ant ac Al (17.45) and Seren Nadolig Rhos chorus (18.45)

 

Friday 18 November – Father Christmas Party

(Stiwt Theatre, Rhosllannerchrugog)

– with Fireman Sam and Norman Preis (18.00)

 

Wednesday 23 November – Rownd a Rownd Pub Quiz

(The Railway Club, Brewery Place, Pentrefelin)

19.30

 

Thursday 24 November – Dudley

(Yale College, Wrexham)

19.30

 

Friday 25 November / Saturday 26 November – Cyw and friends Christmas Show

(Stiwt Theatre, Rhosllannerchrugog)

 

Monday 28 November – Flower-arranging demonstration

(Capel y Groes, Bodhyfryd, Wrecsam)

19.30

 

Tuesday 29 November –Father Christmas Parade

Rhosllannerchrugog, Johnstown, Ponciau

16.00

 

Wednesday 30 November – S4C Viewers Evening

(Capel y Groes, Bodhyfryd, Wrexham)

19.00

 

Sunday 4 December – Seren Nadolig Rhos presents ‘Wizard o Rhos’

(Stiwt Theatre, Rhosllannerchrugog)

14.30 and 19.30

 

Thursday 8 December – Wrexham through the archives S4C

Rhosllannerchrugog Library

19.00