Cynllun Lleol ym Mlaenau Gwent yn elwa £200 o Ymgyrch Calon Cenedl S4C

CYNLLUN LLEOL YM MLAENAU GWENT YN ELWA £200 O YMGYRCH CALON CENEDL S4C
Mae criw o athrawon Ysgol Gyfun Gwynllyw ac aelodau Mudiad Ysgolion Meithrin wedi ennill cwis dafarn arbennig a drefnwyd fel rhan o ddigwyddiadau Calon Cenedl S4C yn ardal Blaenau Gwent.
Menter Iaith Blaenau Gwent, Mynwy a Thorfaen yw’r cynllun lleol o ddewis yr athrawon fydd yn derbyn y brif wobr o £200.
Daeth 11 tîm at ei gilydd yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy ar gyfer y cwis dafarn a gyflwynwyd gan Gareth Roberts. Roedd yr awyrgylch yn hwyliog a’r cystadlu’n agos iawn rhwng cymdogion a ffrindiau, busnesau lleol a chriw o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Gwynllyw wrth iddynt ateb cwestiynau ar wybodaeth gyffredinol, yr ardal leol, Cwpan Rygbi’r Byd a cherddoriaeth.
Cyflwynwyd siec o £200 i’r tîm buddugol ar gyfer elusen neu gynllun lleol, yn ogystal â nwyddau Calon Cenedl i bob aelod.
YN Y LLUN: Ruth Phillips, Mererid Lewis Davies, Nicci Gill, Richard Davies gyda’r cwisfeistr Gareth Roberts (canol) Roedd Marie Edwards hefyd yn rhan o’r tîm buddugol.
Llwy bren Calon Cenedl oedd y wobr i’r ddau dîm ddaeth yn gydradd olaf – disgyblion Ysgol Gyfun Gwynllyw ac aelodau Clwb Rygbi Glyn Ebwy.
Mae digwyddiadau Calon Cenedl S4C yn parhau yn ardal Blaenau Gwent.
Bydd cyfle i holi Dudley Newbery a blasu rhai o’i ddanteithion yn Y Ddawnsfa, Theatr y Beaufort, Glyn Ebwy ar nos Fawrth 11 Hydref.
I gloi’r gweithgareddau ym Mlaenau Gwent, bydd y cyflwynydd Nia Roberts yn holi Tim Rhys-Evans, cyfarwyddwr cerdd Only Men Aloud ac Only Boys Aloud am lwyddiant y corau ac am ei gynlluniau ar gyfer Only Kids Aloud yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg, Blaina (Mercher 12 Hydref, 19.00).
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau ym Mlaenau Gwent ac am gyfle i fwynhau uchafbwyntiau ymgyrchoedd blaenorol Calon Cenedl, ewch i’r wefan: www.s4c.co.uk/caloncenedl neu cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 neu e-bostiwch gwifren@s4c.co.uk
Diwedd
£200 AWARDED TO LOCAL BLAENAU GWENT PROJECT AS PART OF S4C COMMUNITY CAMPAIGN
A group of teachers from Ysgol Gyfun Gwynllyw and members of Mudiad Ysgol Meithrin have won a special pub quiz organised by S4C as part of the channel’s Calon Cenedl (Heart of a Nation) campaign in Blaenau Gwent.
The teachers have chosen to donate the main prize of £200 to Welsh language community project Menter Iaith Blaenau Gwent, Mynwy and Torfaen.
Eleven teams took part in the pub quiz, held at Ebbw Vale RFC and hosted by S4C sports presenter Gareth Roberts. It was a close competition between friends and neighbours, local businesses and pupils from Ysgol Gyfun Gwynllyw as they answered questions ranging from the local area, general knowledge, Rugby World Cup and music.
A £200 cheque was presented to the winning team for a local charity or project of their choice, and each member of the team were given Calon Cenedl merchandise.
The two teams in joint last place – Ysgol Gyfun Gwynllyw pupils and the Ebbw Vale RFC team – didn’t leave empty handed as they were awarded Calon Cenedl wooden spoons.

S4C’s Calon Cenedl events continue in the Blaenau Gwent area.
For those with an interest in cooking, Dudley Newbery will be preparing a feast and offering advice and tips at Beaufort Theatre’s Ballroom in Ebbw Vale on Tuesday 11 October.
An evening with Only Men Aloud and Only Boys Aloud music director, Tim Rhys-Evans, will bring S4C’s campaign in the area to a close on Wednesday 12 October (19:00). Presenter Nia Roberts will host an evening in Tim’s company at Ysgol Gynradd Bro Helyg.
More information about the events in Blaenau Gwent can be obtained on the Calon Cenedl website: www.s4c.co.uk/caloncenedl or by contacting the S4C Viewers’ Hotline on 0870 6004141 or via email on gwifren@s4c.co.uk
A loop system and translation equipment will be provided for non-Welsh speakers at the events.
Ends




