Gwers Gerddorol arbennig i Ddisgyblion Blaenau Gwent

5th October 2011

GWERS GERDDOROL ARBENNIG I DDISGYBLION BLAENAU GWENT

Bydd disgyblion Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn Blaina yn gobeithio taro’r nodau cywir ddydd Mercher 12 Hydref  wrth dderbyn dosbarthiadau meistr  gan Gyfarwyddwr Cerdd y côr enillodd yn y Classical Brits.

Tim Rhys-Evans, Cyfarwyddwr Cerdd Only Men Aloud, fydd yn cynnig  y gwersi ’'r disgyblion cyn iddyn nhw berfformio  mewn cyngerdd  yng nghwmni Tim  ac aelodau o gorau Only Men Aloud ac Only Boys Aloud fel rhan o ymgyrch Calon Cenedl S4C.

Meddai Tim, sy’n wreiddiol o Dredegar Newydd, “Mae cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl – boed yn hen neu’n ifanc. Mae canu yn gallu cynnig profiad positif i bawb o bob oed ac rwy’n edrych ymlaen at ymweld ag Ysgol Bro Helyg ac i gwrdd â’r disgyblion a chynnig gwers gerddorol arbennig iddyn nhw fel rhan o ddigwyddiadau Calon Cenedl S4C.”

Mae’r dosbarthiadau meistr yn debyg i brosiect diweddaraf Tim. Maen  gobeithio bydd y prosiect Only Kids Aloud hefyd yn cynnig y cyfle i blant ifanc i fwynhau profiadau cerddorol.

Bydd Tim – wnaeth arwain Only Men Aloud i lwyddiant yng Ngwobrau Classical Brits  2010 gyda’r albwm Band of Brothers – yn ymuno â chyflwynydd S4C, Nia Roberts, yn yr ysgol ar 12 Hydref (19:00) am noson arbennig o sgyrsio a cherddoriaeth.

Yno, bydd yn sôn am lwyddiant Only Men Aloud ac Only Boys Aloud hyd yma, am ei gynlluniau ar gyfer Only Kids Aloud a chyfres newydd Only Men Aloud ar S4C.

Hon fydd ail gyfres y côr ar S4C a bydd pob rhaglen yn dilyn gwahanol genre o gerddoriaeth, gan gynnwys cerddoriaeth y byd ffilm, y sioeau cerdd, caneuon opera, cerddoriaeth Gymreig ac Americanaidd a cherddoriaeth cyfnod yr Ail Ryfel Byd, i nodi 70 mlynedd ers Blits Abertawe. Darlledir y gyfres bob nos Iau am 21:00 ar S4C.

Mae Noson yng nghwmni Tim Rhys-Evans yn rhad ac am ddim – does dim angen archebu tocynnau. Bydd yr adloniant yn dechrau am 19:00 yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg, Blaina. Darperir system ddolen sain ac offer cyfieithu hefyd.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau ym Mlaenau Gwent ac am gyfle i fwynhau uchafbwyntiau ymgyrchoedd blaenorol Calon Cenedl, ewch i’r wefan: www.s4c.co.uk/caloncenedl neu cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 neu e-bostiwch gwifren@s4c.co.uk

Diwedd

 

TIM’S MUSICAL MASTER-CLASS WITH BLAENAU GWENT PUPILS

Pupils from Ysgol Gymraeg Bro Helyg in Blaina will hope to hit the right notes on Wednesday 12 October when they are given a special masterclass by a Classical Brits Award Winning Music Director, organised as part of S4C’s Calon Cenedl (Heart of a Nation) campaign.

Only Men Aloud Music Director Tim Rhys-Evans is set to give the pupils a musical lesson with a difference before they  perform at An Evening with Tim Rhys-Evans and members of the Only Men Aloud and Only Boys Aloud choirs later that day.

Tim, originally from New Tredegar, says: “Music can play an integral role in people’s lives from a young age. Singing can have a positive experience on people of all ages and I’m delighted to be able to visit Ysgol Bro Helyg and meet the pupils as part of S4C’s Calon Cenedl events and offer a special singing lesson.” 

The masterclass bears certain similarities with Tim’s latest project. Tim hopes the project – Only Kids Aloud – can offer children from a young age the chance to enjoy positive musical experiences.

Tim – who led Only Men Aloud to Classical Brit Awards glory in 2010 for their album Band of Brothers – joins S4C presenter Nia Roberts at the school on 12 October (19:00) for a special evening of music and chat.

There he will discuss what’s coming up for Only Men Aloud and Only Boys Aloud, his plans for  Only Kids Aloud and Only Men Aloud’s brand new S4C series.

It’s the choir’s second S4C series and each programme will feature a particular music genre including film music, songs from the musicals, opera, music by Welsh and American composers and, to mark 70 years since the Swansea Blitz, songs of the Second World War. The series is broadcast every Thursday on S4C at 21:00.

An Evening with Tim Rhys-Evans is a free event and no tickets are required beforehand. The entertainment begins at 19:00 at Ysgol Gymraeg Bro Helyg, Blaina. A loop system and translation equipment will be provided for non-Welsh speakers.

More information about the events in Blaenau Gwent can be obtained on the Calon Cenedl website: www.s4c.co.uk/caloncenedl or by contacting the S4C Viewers’ Hotline on 0870 6004141 or via email on gwifren@s4c.co.uk

Ends