S4C yn Gosod Her Nadoligaidd I Gymuned Rhosllannerchrugog a'r Cylch

19th September 2011

Seren Rhos

S4C YN GOSOD HER NADOLIGAIDD I GYMUNED RHOSLLANNERCHRUGOG A’R CYLCH

Mae’r haf wedi ein gadael am flwyddyn arall a’r dail yn dechrau disgyn i groesawu’r hydref , ond mae cymuned Rhosllannerchrugog wrthi’n paratoi am y Nadolig a’r her fawr sy’n eu gwynebu.

Heddiw (Gwener 16eg Medi), cyhoeddodd y cyflwynydd a chynhyrchydd teledu Stifyn Parri gynlluniau am gyfres realaeth newydd ar S4C, SEREN NADOLIG, fydd yn dilyn aelodau’r gymuned wrth iddynt greu a chynhyrchu pantomeim Nadolig.

Adeilad trawiadol Y Stiwt, wedi’i leoli yng nghalon y pentref, fydd lleoliad y cynhyrchiad ar ddydd Sul 4ydd Rhagfyr.

Mae’r tîm cynhyrchu wrthi’n chwilio am actorion, cantorion, cerddorion, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, pobl gwisgoedd, colur, dylunwyr set, ysgrifenwyr, corau, dawnswyr, tîm marchnata a gwerthwyr tocynnau i ymuno yn yr her.

Bydd clyweliadau yn agored i bawb sydd â diddordeb i fod yn rhan o’r pantomeim ar 27ain Medi yn y Stiwt. Bydd ymarfer llawn cyntaf y corws yn cael ei gynnal ar 4ydd Hydref.

Meddai Stifyn Parri, sy’n rhedeg Mr Producer - cwmni Digwyddiadau Creadigol a Chysylltiadau Cyhoeddus yng Nghaerdydd: “Yn sicr fydd hi’n ras yn erbyn amser – deg wythnos o waith caled sydd gennym i wireddu’r freuddwyd. A bydd yr holl genedl yn ein canlyn ar S4C bob wythnos yn y gyfres Seren Nadolig, gan ddechrau ar 8 Tachwedd.

“Mae yna groeso cynnes i bawb i fod yn rhan o’r prosiect – yr hen a’r ifanc, y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg a’r hyderus a’r swil!”

Bydd yr holl arian a godir o werthu tocynnau’r pantomeim yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu ystafell gymunedol newydd lle mae’r theatr ieuenctid yn ymarfer yn y Stiwt – er mwyn meithrin talent perfformio’r dyfodol.

Mae Seren Nadolig yn ddilyniant i’r gyfres lwyddiannus Seren Bethlehem yn 2009 pan aeth cymuned o Sir Gaerfyrddin ati i ail-greu drama’r geni mewn beudy ym mhentref Bethlehem. Roedd y gyfres yn dilyn hynt a helynt y gymuned wrth baratoi ar gyfer y cynhyrchiad – a oedd yn cynnwys babi newydd-anedig, asyn, cannoedd o blant ysgol lleol a’r ŵyn bach a oedd yn brefu trwy’r holl berfformiad!

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, “Rydym yn hynod falch o’r croeso cynnes rydym wedi dderbyn mor belled gan y gymuned yn Rhos ag edrychwn ymlaen i gefnogi anturiaethau’r panto. Mi fydd S4C hefyd yn ymweld â’r ardal ym mis Hydref fel rhan o’n hymgyrch Calon Cenedl, lle byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau eraill ar gyfer y gymuned yn cynnwys Noson Gwylwyr, a bydd cyfle i bawb ddatgan eu barn am raglenni a gwasanaethau’r sianel a chyfarfod â chyfarwyddwyr y sianel.”
SEREN NADOLIG                                        

DYDDIAD DARLLEDU: 8 Tachwedd 2011                          
S4C                

Stifyn Parri

S4C'S FESTIVE CHALLENGE FOR RHOSLLANNERCHRUGOG COMMUNITY

It may only be September but Christmas preparations have already begun for the community of Rhosllannerchrugog with a unique festive challenge to complete.

Local television personality and producer, Stifyn Parri, today (Friday 16 September) announced plans of a new S4C reality series, Seren Nadolig, that will follow locals in Rhos and the surrounding area as they create and produce a Christmas pantomime.

The iconic Stiwt building in the heart of the village will be the setting of the production on Sunday 4th December.

The search is now on for actors, singers, musicians, directors, producers, dressmakers, set designers, scriptwriters, make-up artists, choirs, dancers, marketing and salespeople to join the challenge.

Open auditions for the roles in the pantomime will take place at the Stiwt on the 27th September. The first full rehearsal for the chorus is scheduled for Tuesday 4th October.

Stifyn Parri, who runs his own Creative Events and Public Relations company Mr Producer in Cardiff, says: “It's going to be a real race against time to get this project up and running so the more people involved, the better. There’s no age restriction and you don’t have to speak Welsh to be part of the project – everyone is welcome.

“We've got just over ten weeks to make this dream a reality and every step will be caught on camera for S4C series, Seren Nadolig (Star of Christmas), which will be broadcast weekly from 8th November.”

All monies raised from the ticket sales will be returned to the Stiwt to develop a brand new community and rehearsal room for the youth theatre and local community to enjoy.

Seren Nadolig follows the success of S4C series Seren Bethlehem in 2009 when a community in Carmarthenshire recreated the nativity in a barn in the village of Bethlehem. The series followed the trials and tribulations of the locals as they created the unique production – all with a newborn baby, a donkey, hundreds of schoolchildren and a baby lamb who stole the show!

S4C’s Communications Director, Garffild Lloyd Lewis, says “We’re very happy with the warm welcome that we have received thus far from the Rhos community and we look forward to supporting the pantomime’s progress. S4C will also be visiting the area in October for our Calon Cenedl (Heart of the Nation) campaign, hosting numerous events, including an opportunity for the local community to voice their opinion on S4C programmes and services and to meet the channel’s directors in a Viewers’ Evening.”

SEREN NADOLIG
TX DATE: 8 November 2011