Only Men Aloud launch Bangor University's 125th Anniversary Celebrations

16th June 2009

 

Bangor University (Tuesday 16th June) proudly launched their 125th Anniversary Celebrations which will culminate in a special celebratory weekend (15th to 17th October). Performing as part of the Autumn celebrations will be Only Men Aloud who today made a guest appearance at the launch event at Bangor University’s contemporary Management Centre.

  Only Men Aloud in front of Prichard-Jones Hall, Bangor University

  Only Men Aloud in front of the Prichard-Jones Hall, Bangor University

Hot on the heels of Bangor University’s distinguished Honorary Degree Ceremony last week (Wednesday 10th June), honouring Sir David Attenborough, the Rt Hon Rhodri Morgan, Professor Sir John Meurig Thomas and Archbishop Desmond Tutu, Bangor University are going full steam ahead in celebration of their 125th Anniversary this year.

Dr David Roberts, Secretary & Registrar said "This is a special year for Bangor University. We are very proud of our record of academic excellence over 125 years, and have devised an exciting programme of events to mark this milestone. It's a contemporary and eclectic programme, and we look forward to celebrating with our friends, supporters, business partners, students and alumni".

Launching this diverse programme of celebratory events were Only Men Aloud, who were crowned the nation’s favourite choir on BBC’s ‘Last Choir Standing’ last year. The choir gave an impromptu rendition of ‘Happy Birthday’ at the launch, where it was announced they will perform at a prestigious black-tie dinner on Thursday 15th October in the University’s magnificent Prichard-Jones Hall. Only Men Aloud said “We are delighted to be here to launch the 125th celebrations and be the first to wish happy birthday to Bangor University. We’re looking forward to returning to give a special celebratory performance at the University in October”.

The 125th Anniversary Celebrations will culminate in a music extravaganza with a weekend of celebratory concerts featuring internationally acclaimed artists, which will take place from Thursday 15th to Saturday 17th October 2009. This includes a Black-Tie Gala Dinner with Only Men Aloud on Thursday 15th, a Concert with Mary Black (supported by Meinir Gwilym) on Friday 16th and a Concert with Super Furry Animals on Saturday 17th October.

The concerts celebrate completely different genres of music but they each have a distinct Celtic feel. On Friday 16th October, Bangor University welcomes one of Ireland’s finest female Celtic-folk singers Mary Black. With an impressive seven platinum solo albums to her name, Mary Black is undoubtedly one of Ireland’s greatest exports, “I’m delighted to be part of the celebrations which mark such a special occasion for the University. It’s a beautiful venue and I’m looking forward to coming back to Wales in October”.

Mary Black will be supported by Welsh singer-songwriter Meinir Gwilym who was a student at Bangor University herself, “My time at Bangor University was so valuable to me. I’m a great fan of Mary Black and her music, so am thrilled to be supporting her on the Friday night”.

The celebrations will change gear again on Saturday 17th October as Bangor University caters for a younger audience as well as it’s own students when legendary Welsh rock band Super Furry Animals take to the PJ-Hall stage. SFA said “It’s a great celebration, a great line-up and we’re looking forward to playing some of our latest album ‘Dark Days / Light Years’ for Bangor and it’s students. The historical venue will make it a real intimate gig. Penblwydd hapus Bangor University!”

Vice Chancellor Professor Merfyn Jones acknowledged “We are very conscious of our debt to the local community, our commitment to Welsh medium study and our role in the life and economy of Wales, but are also proud of our international dimension. We are aiming to ensure that all of these factors can be reflected in our celebrations”.

Over the years Bangor University has been a hothouse for some of Britain’s greatest achievers. Past alumni who have gone on to become masters in their field include Academy Award winning Film Director Danny Boyle, BBC Director Tim Haines ‘Walking with Dinosaurs’, Test tube baby pioneer Dr Robert Edwards, actress Frances Barber, actor and actress John Ogwen and Maureen Rhys, writer and comedian John Sessions, singer/songwriter Caryl Parry Jones and radio presenter Nia Roberts.

Whilst celebrating it’s history and heritage the University is also looking to the future with a number of major developments planned. Future developments such as an exciting and ambitious new Arts & Innovation Centre will enable Bangor University to maintain its position as a leading University.

Two Honorary Fellows who will be attending the celebrations will be Carol Vorderman MBE and ITV weather presenter Sian Lloyd. Sian Lloyd, who last year received an Honorary Fellowship for her services to the media and charities, expressed her delight at attending the Gala Dinner on Thursday 15th October “It’s fantastic to see that Bangor University continues to thrive and develop and to be celebrating 125 years is an outstanding achievement. The University is the cherry on Bangor’s cake! I send my best wishes to the University and look forward to this fantastic line-up”.

Schedule of 125th Anniversary Celebrations:

•    Thursday 15th October: Black-Tie Gala Dinner with Only Men Aloud

•    Friday 16th October: Mary Black in Concert (supported by Meinir Gwilym)

•    Saturday 17th October: Super Furry Animals in Concert

Ticket Enquiries:

Mary Black and Super Furry Animals Concerts, please contact the Box Office at Galeri on 01286 685222 or visit www.galericaernarfon.com

Mary Black ticket price from £27.50 - £32.50 (seated)
Super Furry Animals ticket prices – Standing room £20, Balcony £25

Only Men Aloud Gala Dinner table purchase, please contact Bangor University on 01248 382002.
(Only Men Aloud table purchases from £1500) 

Enwau mawr yn dathlu 125 mlwyddiant Prifysgol Bangor

Lansiwyd dathliadau 125 mlwyddiant Prifysgol Bangor (Dydd Mawrth 16 Mehefin) a fydd yn cyrraedd uchafbwynt gyda phenwythnos o ddathliadau (15 i 17 Hydref). Ymhlith gwesteion arbennig yn y lansiad, a gynhaliwyd yn y Ganolfan Rheolaeth cyfoes, oedd Only Men Aloud a fydd hefyd yn cymryd rhan yn nathliadau’r Hydref.

Yn dilyn Seremoni Graddau Er Anrhydedd mawreddog Prifysgol Bangor wythnos ddiwethaf (Dydd Mercher 10 Gorffennaf) ble anrhydeddwyd Syr David Attenborough, Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, AC, Yr Athro Syr John Meurig Thomas a’r Archesgob Desmond Tutu, mae Prifysgol Bangor yn sicrhau fod eleni am fod yn flwyddyn i’w chofio gyda’u dathliadau 125 mlwyddiant.

Dywedodd Dr David Roberts, Ysgrifennydd a Chofrestrydd “Mae eleni’n flwyddyn arbennig i Brifysgol Bangor. Rydym yn ymfalchïo yn ein traddodiad o ragoriaeth academaidd dros 125 o flynyddoedd ac rydym wedi dyfeisio rhaglen cyffroes o ddigwyddiadau i gofnodi’r garreg filltir hon. Mae’n rhaglen gyfoes ac amrywiol ac rydym yn edrych ymlaen at gael dathlu gyda’n ffrindiau, ein cefnogwyr, partneriaid busnes a’n myfyrwyr."

Lansiwyd y rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau i ddathlu gan Only Men Aloud, enillwyr y gystadleuaeth BBC ‘Last Choir Standing’. Cafwyd perfformiad di-rybudd o ‘Pen-blwydd Hapus’ gan y côr a cyhoeddwyd y byddent yn perfformio mewn Cinio Gala Tei-du mawreddog ar ddydd Iau 15 Hydref yn y Neuadd Prichard-Jones godidog. Dywedodd Only Men Aloud “Rydym wrth ein boddau i fod yma i lansio dathliadau’r 125 mlwyddiant ac i fod y cyntaf i ddymuno pen-blwydd hapus i Brifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at ddod yn ôl i roi perfformiad arbennig yn y Brifysgol ym mis Hydref.”

Bydd dathliadau’r 125 mlwyddiant yn cyrraedd uchafbwynt gyda phenwythnos llawn dathlu a cherddoriaeth, gyda artistiaid byd-enwog o ddydd Iau 15 i ddydd Sadwrn 17 Hydref, gan gynnwys Cinio Gala Tei-du gyda Only Men Aloud ar ddydd Iau 15, Cyngerdd gyda Mary Black (gyda Meinir Gwilym yn cefnogi) ar ddydd Gwener 16 a Chyngerdd gyda Super Furry Animals ar ddydd Sadwrn 17 Hydref.

Mae’r cyngherddau yn dathlu mathau hollol gwahanol o gerddoriaeth ond gyda naws Celtaidd yn perthyn i bob un. Ar ddydd Gwener 16 Hydref, mae Prifysgol Bangor yn croesawu un o gantorion gorau gwerinol-Geltaidd Iwerddon, Mary Black. Gyda saith albwm platinwm i’w henw, Mary Black yw, heb os nag oni bai, un o allforion gorau Iwerddon, “Rydw i wrth fy modd i fod yn rhan o’r dathliadau sy’n dynodi digwyddiad mor arbennig i’r Brifysgol. Mae lleoliad y gyngerdd yn un hyfryd ac rwy’n edrych ymlaen at ddod yn ôl i Gymru ym mis Hydref.”

Bydd y gantores a’r cyfansoddwraig Gymraeg, Meinir Gwilym, sy’n gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor yn cefnogi Mary Black, “Byswn i ddim yma heddiw oni bai am Brifysgol Bangor. Mae’n anrhydedd i mi gael fy ngwahodd yn ȏl i berfformio fel rhan o’r dathliadau 125 mlynedd. Dwi’n ffan mawr o Mary Black a’i cherddoriaeth, felly dwi’n wrth fy modd mod i yn cael perfformio ar un un noson â hi”.

Bydd y dathliadau yn newid cyfeiriad eto ar ddydd Sadwrn 17 Hydref wrth i Brifysgol Bangor ddiwallu anghenion y to iau yn ogystal â’r myfyrwyr pan fydd y band roc byd-enwog, Super Furry Animals yn camu ar lwyfan Neuadd PJ. Dywedodd SFAMae’n ddathliad gwych gyda perfformwyr diddorol ac rydym yn edrych ymlaen at gael chwarae rhai o’r caneuon oddi ar ein halbwm newydd “Dark Days / Light Years” i fyfyrwyr Bangor. Bydd y lleoliad hanesyddol yn sicr o wneud y noson yn un cofiadwy iawn. Pen-blwydd hapus Prifysgol Bangor!”

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Merfyn Jones “Rydym yn ymwybodol iawn o’n dyled i’r gymuned leol, ein hymrwymiad i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a’n rhan ym mywyd ac economi Cymru, ond rydym hefyd yn falch o natur ryngwladol y Brifysgol. Ein bwriad yw sicrhau fod yr holl ffactorau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn ein dathliadau.”

Dros y blynyddoedd mae Prifysgol Bangor wedi magu rhai o dalentau mwyaf Prydain. Mae cyn-fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i fod yn feistri eu amrywiol crefft yn cynnwys y Cyfarwyddwr Ffilm a enillodd Gwobr Academy (Academy Award) am ei waith, Danny Boyle, Cyfarwyddwr cyfres ‘Walking with Dinosaurs’ y BBC, Tim Haines, yr arloeswr Babanod tiwb profi (Test tube baby) Dr Robert Edwards, yr actores Frances Barber, yr actor a’r actores John Ogwen a Maureen Rhys, yr awdur a’r digrifwr, John Sessions, y gantores a chyfansoddwraig Caryl Parry Jones a’r cyflwynydd radio Nia Roberts.

Wrth ddathlu ei hanes a’i dreftadaeth mae’r Brifysgol hefyd yn edrych tua’r dyfodol gyda nifer o ddatblygiadau mawr ar y gweill. Bydd datblygiadau megis y Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi cyffroes ac uchelgeisiol yn galluogi Bangor i barhau i fod yn Brifysgol flaenllaw.

Dau Gymrawd er Anrhydedd a fydd yn mynychu’r dathliadau bydd Carol Vorderman MBE a chyflwynydd tywydd ITV Siân Lloyd. Derbyniodd Siân Lloyd ei Chymrodoriaeth er Anrhydedd y llynedd am wasanaethau i’r cyfryngau ac elusennau; mynegodd ei chynnwrf am fynychu’r Cinio Gala ar ddydd Iau 15 Hydref “Mae’n ffantastig i weld Prifysgol Bangor yn parhau i ffynnu a datblygu ac mae dathlu 125 mlwyddiant yn lwyddiant arbennig. Mae’r Brifysgol yn berl sy’n coroni Bangor! Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld yr holl berfformwyr anhygoel a hoffwn ddymuno’r gorau i’r Brifysgol”.

Amserlen Dathliadau 125 Mlwyddiant:

•    Dydd Iau 15 Hydref: Cinio Gala Tei-Du gyda Only Men Aloud
•    Dydd Gwener 16 Hydref: Cyngerdd Mary Black (gyda Meinir Gwilym yn cefnogi)
•    Dydd Sadwrn 17 Hydref: Cyngerdd Super Furry Animals

Ymholiadau tocynnau:

Cyngherddau Mary Black a Super Furry Animals, cysylltwch a'r swyddfa docynnau yn Galeri on 01286 685222 neu ewch i www.galericaernarfon.com

Tocynnau Mary Black o £27.50 - £32.50 (seddi)
Tocynnau Super Furry Animals – Sefyll £20, Balconi £25

I brynu bwrdd yng Nghinio Gala Only Men Aloud, cysylltwch â Phrifysgol Bangor ar 01248 382002.
(Byrddau Only Men Aloud o £1500)