Caryl Parry Jones
Singer Songwriter Composer Scriptwriter
Presenter Producer
Music & Literature Workshop
BAFTA UK-winning rock stars are somewhat thin on the ground these days. BAFTA UK-winning composers, presenters, producers, after-dinner speakers and workshop leaders are even rarer. So Caryl Parry Jones- who is all of these things- is a very unique and special person indeed!
Caryl Parry Jones is renowned as a powerfully charismatic live performer and her status as one of Wales's most influential artists was confirmed when she was awarded a lifetime achievement award at the 2007 BBC Radio Cymru RAD Awards for her outstanding contribution to the Welsh music scene. She is a hugely-respected songwriter and, as a testimony to her range and versatility, her compositions have been performed by musicians as diverse as Bryn Terfel and Gruff Rhys (Super Furry Animals).
TV Music
Caryl has composed music for countless television programmes and corporate events, such as S4/C's launch of their new children's programmes strand ‘Cyw', the anthem for the Ray Gravell memorial concert and the signature tune for S4/C's latest Christmas series ‘Seren Bethlehem'. In addition, Caryl has composed and produced countless musical shows for both television and the stage.
The 4o5s
Caryl is also part of a brand new Welsh harmony ‘Supergroup' called The 4o5s whose set includes a mixture of American Songbook favourites, Welsh classics and their own original material.
The 4o5s
BAFTA UK
Caryl also performs regularly as a duo with the band's talented guitarist Christian Phillips. Christian was her co-writer on "Rhestr Nadolig Wil" which recently won a BAFTA UK in the Best Children's Drama category at the Children's BAFTA Awards in London and which has also been nominated for a prestigious Kid Screen Award in New York.
Poetry and Prose
Music is only half the story because Caryl Parry Jones is also a hugely gifted wordsmith. In 2007 she was named as Wales Children's Poet Laureate and she is renowned as an accomplished scriptwriter, presenter and producer. On TV, radio, on stage and in print her ceaseless creativity, wit and comedic skills have been universally recognized and lauded.
Workshops
Caryl loves passing on her skills and talents. She is inspirational when leading workshops and one-to-one classes with children and aspiring youngsters, teaching them everything from the importance of vocal preparation and technique to professional etiquette and audience interaction. It's surely no surprise that several of Caryl's ex-pupils have benefited from her experience and have gone on to pursue careers in the entertainment industry.
Honours
Caryl Parry Jones has been inducted into the Royal Television Society's Hall of Fame and honoured by University College Bangor, the Royal Welsh College of Music and Drama and University College Swansea. In 2008 she was admitted into the Gorsedd of the National Eisteddfod of Wales.
For more information and to discuss availability please contact agency@mrproducer.co.uk or call the office on 02920 916 667.
Caryl Parry Jones
Cantores Cyfansoddwr Sgriptiwr Cyflwynydd
Gweithdai Cerddorol a Llenyddol
Comiwsiynau Cerddorol
Ma' sêr roc sydd wedi ennill BAFTA UK yn weddol brin ddyddiau yma. Ac mae cyfansoddwyr, cyflwynwyr, cynhyrchwyr, beirdd ac arweinwyr gweithdai sydd wedi ennill BAFTA UK yn fwy prin byth. Fel un o'r pobol yma mai'n amlwg fod Caryl Parry Jones yn berson unigryw ac arbennig iawn!
Mae Caryl yn berfformwraig bwerus a charismatig ac fe gafodd ei statws hi fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol a blaenllaw ei chenhedlaeth ei gadarnhau yn 2007 wrth iddi dderbyn tlws arbennig i gofnodi ei gwaith dros y blynyddoedd fel cantores, cyfansoddwraig a chynhyrchydd yng Ngwobrau RAD Radio Cymru. Mae caneuon Caryl Parry Jones wedi cael eu perfformio gan nifer helaeth o artistiaid gan gynnwys Bryn Terfel a Gruff Rhys (Super Furry Animals).
Cerddoriaeth a Geiriau
Mae Caryl wedi
cyfansoddi cerddoriaeth a chaneuon ar gyfer nifer o raglenni teledu a digwyddiadau corfforaethol, megis
lansiad rhaglenni newydd S4/C i blant 'Cyw', yr anthem ar gyfer cyngerdd gofeb
Ray Gravell a hefyd y brif alaw ar gyfer cyfres Nadolig diweddar S4/C 'Seren
Bethlehem'. Mae hi wedi cyfansoddi sawl sioe gerddorol ar gyfer teledu a'r llwyfan. Ond
mae geiriau yn bwysig i Caryl hefyd. Yn 2007 Caryl Parry Jones oedd Bardd Plant
Cymru a
ma'i dawn ddisgleiriol wrth drin geiriau mewn cerddi a sgriptiau- o'r digri i'r
dwys- wedi swyno, synnu a syfrdanu cynulleidfaoedd dros Gymru gyfan ar
lwyfannau, theledu a radio.
Y 4o5s
Mae Caryl hefyd yn aelod o'r 4o5s, pumawd harmoni lleisiol sy'n arbenigo yng nghlasuron yr American Songbook, eu trefniannau arbennig nhw o ffefrynnau Cymraeg a deunydd gwreiddiol Caryl ac aelodau eraill y grŵp.
Y 4o5s
BAFTA UK
Yn ogystal, mae Caryl hefyd yn perfformio yn selog fel deuawd yng nghwmni gitarydd talentog y grwp Christian Phillips. Hefo Christian wnaeth Caryl ysgrifennu Rhestr Nadolig Wil - rhaglen a enillodd BAFTA UK yng nghategori'r ‘Best Children's Drama' mewn seremoni fawreddog yn Llundain eleni a rhaglen sydd hefyd wedi ei enwebu yn ddiweddar ar gyfer gwobr Kid Screen yn Efrog Newydd.
Yr Athro Caryl
Yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf mae Caryl Parry Jones wedi ei hanrhydeddu gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol ( a'i gosododd yn eu Horiel yr Anfarwolion ), cafodd ei gwneud yn Gymrawd Anrhydeddus gan Goleg y Brifysgol Bangor a Choleg Cerdd a Drama Frenhinol Cymru a derbyniodd Radd Athro mewn Cerddoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Abertawe. Mae hi hefyd yn noddwraig o'r elusen Skincare Cymru. Yn 2008 fe gafodd hi ei derbyn i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gweithdai
Drwy gynnal gweithdai a sesiynau un-wrth-un efo cantorion ifanc mewn ysgolion a cholegau mae Caryl Parry Jones yn calonogi ac yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o dalent ac mae hi yn wirioneddol fwynhau dysgu pob agwedd o berfformio iddyn nhw, o bwysigrwydd paratoi a thechnegau lleisiol i ymddygiad proffesiynol a rhyngweithio gyda chynulleidfa. Yn amlwg mae'r gweithdai yma wedi cael cryn effaith oherwydd mae nifer o'i chyn-ddisgyblion yn dilyn gyrfaoedd cerddorol llwyddiannus eu hunain erbyn hyn.




