Tysteb
Phil Davies - Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
“Mae Mr Producer bob tro yn cynnig cefnogaeth ddigyffelyb ac mae eu gwaith nhw wedi sicrhau gwerth cannoedd ar filoedd o bunnoedd o gyhoeddusrwydd na fyddai’n bosib i’r Eisteddfod gyflawni mewn costau hysbysebu. Ond nid PR yn unig sydd ganddynt i gynnig – mae eu mewnbwn creadigol yn werthfawr iawn inni hefyd."
Cwpan Ryder 2010 - Adroddiad Swyddogol Terfynol.
"Heb os nac oni bai, uchafbwyt yr wythnos oddi ar y cwrs oedd y dathliad ysblenydd "Welcome to Wales' yn Stadiwm Mileniwm Cymru ar y nos Fawrth, a wnaeth osod safon i'r Cwpanau Ryder i ddod."
Rob Holt, Prifweithredwr Cwpan Ryder Cymru
“Ni wnaeth reddf, integredd na gwaith tîm Mr Producer wanhau wrth greu cyngerdd "Welcome to Wales" yn Stadiwn Mileniwm Cymru i ddathlu Cwpan Ryder 2010. Mi wnaethon nhw greu sioe hefo gweledigaeth, hyder a manylder. Gan weithio o dan gyfarfwyddyd y Cynulliad a sawl unigolyn a chwmni arall mi wnaeth Mr Producer weithio'n diwyd i lwyfannu cynhyrchiad a wnaeth ddathlu a chwyflwyno talent Cymru i'r byd eang.”
Judith Isherwood, Prifweithredwr Canolfan Mileniwm Cymru
"Am dri diwrnod yn Nhachwedd 2004 roedd Bae Caerdydd yn ganolbwynt sylw pawb gyda dathliadau agoriad Canolfan Mileniwm Cymru. Mi wnaeth Stifyn Parri a thîm Mr Producer helpu'r ganolfan lwyddo i gynhyrchu un o'r digwyddiadau mwyaf a'r gorau â welodd Cymru erioed. Gyda chymorth Stifyn fel cyd-grewr a'i dîm yn gweithio fel rheolwyr y brosiect mi ryfeddodd pawb ar eu safonau rhagorol a'u cunllunio logistaidd. Diolch Stifyn, ni fyddem wedi llwyddo hebddoch!"
Bryn Robert's Cadair BAFTA Cymru.
Daeth Mr Producer i achub noson gwobrwyo BAFTA Cymru mewn cyfnod tyngedfenol iawn mewn hanes, diolch.
Bryn Terfel
"Brwdfrydedd ag awch proffesiynol am syniadau diddorol perthnasol ag efallai newydd. Dyna yn fy nhyb i ydi hanfod unrhyw gydweithrediad. Mae'r hanfodion yma yn gorlifo pwced " Mr Producer". Diolch o ddifri am eu gwaith caboledig ym mhenwythnos agoriadol Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd."
Mervyn Cousins, Cyfarwyddwr Gweithredol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
"Wedi i Eisteddfod Llangollen gyflogi Mr Producer mi gawsom ein gwirioni ar eu brwdfrydedd, eu ffordd o feddwl a'u gwaith angerddol i'r Wyl. Rydym wrth ein bodd fod Lydia, Stifyn a Hannah yn gweithio hefo ni, ac yn edrych ymlaen yn eiddgar ar Haf gyffrous ac egniol arall yn 2010."
Richard Newton Prince's Trust Cymru.
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi gweithio gyda Mr Producer sawl gwaith ac wedi derbyn safonau gwasanaeth uchel iawn wrth iddynt greu digwyddiadau cyffroes a gwreiddiol i ni.
Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru
"Roedd cadarnhau Mr Producer ar gyfer ein digwyddiadau yn sicrhau syniadau llawn dychymyg, cydlynu proffesiynol, llwyfannu unigryw a chyngherddau wedi eu gwerthu allan!. Roedd rhoi'r cyngherddau hyn ar y teledu yn hwb mawr i'r Eisteddfod wrth ddenu ffigurau gwylio gwych."
Daniel Pearce, Pennaeth Marchnata a Chyfathebru, HUGO BOSS UK
"Rhaid rhoi diolch enfawr i chi gyd am eich holl gymorth a chefnogaeth. Roedd y noson yn wirioneddol wych a hynod o lwyddiannus, ac ni fyddem wedi gallu cynnal y noson hebddoch chi."
Rhodri Glyn Thomas, Plaid Cymru
"Cyflwynodd Mr Producer elfen broffesiynol i gynhadledd Plaid Cymru a galluogi'r Blaid i lawnsio ei logo newydd gyda steil ac egni. Mae gan y cwmni y gallu i ychwanegu'r elfen arbennig honno i unrhyw ddigwyddiad o bwys."
Sue Roberts, Cylch Catholig
"Aeth y Cylch Catholig at Mr Producer am ei fod angen help, daeth Mr Producer i'r adwy a'i llenwi - a mwy. Cadwodd mewn cysylltiad clos â ni fel cleient a oedd yn rhoi sicrwydd i ni fod y gwaith yn cael ei wneud, yn cael ei wneud yn iawn ac yn cael ei wneud ar amser. Yn bennaf oll, roedd graen ar y gwaith. Diolch yn fawr iawn, Mr Producer. Welwn ni chi eto cyn hir."
Terry Hands CEO Clwyd Theatr Cymru.
Wedi ceisio sawl gwaith yn ymdopi a'r busnes gwallo sydd ohonni mi fyswn yn hoffi deud yn swyddogol nad ydw erioed wedi gweithio gyda chynhyrchydd mwy proffessiynnol, mwy gweithgar na mwy gofalus erioed. Diolch.
Colin Jackson - Pencampwr Clwydlamu'r Byd
"Rhowch unrhyw rhwystr yn llwybr Mr Producer ac mi wnant ei orchfygu'n greadigol, ond nid ydwyf am eu gweld mewn lycra!"
Gary Townsend - Skillset
"Mae cael cwmni sydd â chymaint o wybodaeth a chysylltiadau lleol fel Mr Producer i reoli digwyddiad i gwmni eang fel ni yn allweddol."
Bryn Roberts - Cadeirydd, BAFTA Cymru
"Daeth Mr Producer i achub gwybrwyon BAFTA Cymru ar adeg hanfodol iawn mewn hanes."
Duncan Higgit, Golygydd Western Mail.
Mi rydw i wedi cynnwys llawer o ddigwyddiadau Mr Producer yn fy ngwaith ac yn gobeithio gwneud hynny yn y dyfodol hefyd gan fod cwmni Stifyn a'r gallu i gynnig storiau difyr.
Lucy Owen , Newyddion BBC Wales
"Mi rydw i wedi gweithio hefo Mr Producer sawl gwaith ac yn credu eu bod yn gwmni didwyll, diffuant a difyr ac fel gohebydd mi rydw i wastad yn agored i glywed am eu prosiectau ac wedi gohebu ar sawl yn y gorffennol.




